Addysg ar gyfer Ffyniant

English

Mae modd i gynllun “Addysg ar gyfer Ffyniant” Partneriaeth Bro Dysg roi cymorth i bobl sy’n byw yn Rhondda Cynon Taf i ennill medrau neu gymwysterau newydd, magu’u hyder a chyrraedd eu llawn dwf.

Cronfa Gymdeithasol Ewrop, Amcan 1 sy’n rhannol ariannu’r cynllun, trwy Lywodraeth y Cynulliad.  Dyma bartneriaid y cynllun:

Canolfan Byd Gwaith
Cwmni Gyrfa Cymru
Y Ffatri Gelf
Plant y Cymoedd
Dare Training
BPI Training
Groundwork Merthyr and RCT
Construction Industry Training Board (CITB)
Skill Force Wales
Gwasanaeth Addysg Gymuned Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
Gwasanaeth Dysgu fel Teulu Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
Gwasanaethau Diwylliannol Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

Mae’n partneriaid yn cydweithio i gynnal amrediad da o gyrsiau a gweithgareddau rhad ac am ddim, gan gynnwys:

Mae modd ichi fanteisio ar gyngor ac arweiniad rhad ac am ddim ar gyfleoedd i gael gyrfa, meithrin medrau sylfaenol a gwasanaethau gofal plant.

Nod ein cynllun ni ydy cynyddu hunan-barch a gwella safon byw y bobl fel bo modd iddyn nhw ailafael â byd gwaith a chyrraedd eu llawn dwf.

I gael rhagor o fanylion ynglŷn â’r cyrsiau sydd ar gael, ffoniwch Garfan Ganolog Prosiect Bro Dysg – (01443) 744303 neu anfon neges ebost LfG@brodysg.org.uk.
© 2004-2007 Bro Dysg